z1 Macabeaid 1:20-40; 2 Macabeaid 5:11-26
aa1 Macabeaid 1:41-64
abDaniel 9:27; 12:11; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)

Daniel 11

1A dw i wedi bod yn ymladd a'i helpu e ers blwyddyn gyntaf teyrnasiad Dareius o Media.”
11:1 Dareius o Media gw. 5:31.

Neges yr angel i Daniel

Rhan un: y pedwar brenin a'u holynwyr

2“Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall
11:2 tri brenin arall Cambyses (tua 530–522 CC), Pseudo-Smerdis (tua 522 CC) a Dareius I Hystaspes (tua 522–486 CC) mae'n debyg.
yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd,
11:2 pedwerydd Xerxes I (tua 486–465 CC) mae'n debyg.
fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid.
3Yna bydd brenin pwerus
11:3 brenin pwerus Alecsander Fawr (oedd yn teyrnasu o tua 336 i 323 CC) mae'n debyg. Concrodd Ymerodraeth Persia yn 330 CC
yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau.
4Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw.
11:4 bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair … rhyngddyn nhw Y pedwar cadfridog y rhannwyd teyrnas Alecsander Fawr rhyngddyn nhw mae'n debyg – Cassander (Macedonia a Groeg), Lysimachus (Thrace a rhannau o Asia Leiaf), Seleucus (Syria a thiroedd tua'r dwyrain), a Ptolemi (Yr Aifft). Bu farw Alecsander Fawr yn 323 CC, ac ar ôl blynyddoedd o ffraeo rhwng cadfridogion y fyddin, rhannodd yr Ymerodraeth yn bedair teyrnas yn 301 CC

5“Wedyn bydd brenin y de
11:5 brenin y de Ptolemi I Soter (tua 322–285 CC) yn yr Aifft.
yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion
11:5 un o'i swyddogion Seleucus I Nicator (tua 312–280 CC) ddaeth i deyrnasu ar Syria a Mesopotamia.
ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth.
6Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de.
11:6 brenin y gogledd a brenin y de Antiochus II Theos (tua 261–246 CC) a Ptolemi II Philadelffws (tua 285–246 CC)
Bydd merch brenin y de
11:6 merch brenin y de Berenice, merch Ptolemi II
yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd.

“Ond yna 7bydd un o'i pherthnasau hi
11:7 un o'i pherthnasau hi ei brawd, Ptolemi III Euergetes (tua 246-221 CC)
yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd
11:7 brenin y gogledd Seleucus II Callinicus (tua 246–226 CC)
, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr.
8Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny. 9Ac wedyn bydd brenin y gogledd
11:9 brenin y gogledd Ymosododd Seleucus II ar yr Aifft yn 242 CC, ond roedd rhaid iddo droi'n ôl.
yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun.
10Yna bydd ei feibion
11:10 ei feibion Seleucus III Ceraunus (tua. 226–223 CC) ac Antiochus III, sef Antiochus Fawr (tua. 223–187 CC).
yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.

11“Bydd brenin y de
11:11 brenin y de Ptolemi IV Philopator (tua 221–203 CC).
wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd
11:11 brenin y gogledd Antiochus III (tua 223–187 CC).
ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu.
12Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir. 13Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.

14“Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de.
11:14 brenin y de Ptolemi V Epiphanes (tua 203–181 CC).
Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.
15Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw. 16Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd,
11:16 Wlad Hardd gw. nodyn ar 8:9.
a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.
17Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched
11:17 un o'i ferched Cleopatra, merch Antiochus III. Rhoddodd hi yn wraig i Ptolemi V.
yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo.

18“Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall
11:18 arweinydd byddin arall Lwcius Cornelius Scipio, y cadfridog Rhufeinig, mae'n debyg. Ennillodd Frwydr Magnesia yn erbyn Antiochus III yn 190 CC
yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu!
19Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth.

20“Bydd ei olynydd
11:20 ei olynydd Seleucus IV Philopator (tua 187–175 CC), mab Antiochus III.
yn anfon un allan
11:20 anfon un allan Heliodorus, prif weinidog Seleucus IV mae'n debyg (gw. 2 Macabeaid 3).
i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr.

Rhan dau: y brenin drwg o'r gogledd

21“Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd
11:21 dyn cwbl ffiaidd Antiochus IV Epiphanes (tua 175–163 CC), brawd iau Seleucus IV.
yn cymryd yr orsedd – er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll.
22Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd.
11:22 arweinydd crefyddol … ladd Onias III, yr archoffeiriad – gw. 2 Macabeaid 4
23Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr. 24Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn.

25“Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de.
11:25 brenin y de Ptolemi VI Philometor (tua 181–146 CC).
Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn.
26Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd. 27Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben. 28Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre.

29“Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma. 30Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin
11:30 gorllewin Hebraeg,  Cittim – sef Cyprus, gw. Numeri 24:24. Pobl yn dod o gyfeiriad Môr y Canoldir yn y gorllewin. Cyfeiriad at fyddin Rhufain, dan arweiniad Gaius Popilius Laenas, sydd yma. Roedd yr Aifft wedi gofyn am help Rhufain.
yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. z Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd. aa
31Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio ab yno.
11:31 Bydd ei fyddin … trallod yno Gwnaeth Antiochus IV ddefodau Iddewig yn anghyfreithlon (Darllen y Gyfraith, cadw'r Saboth, ymarfer enwaediad a chyflwyno aberthau). Cysegrodd y Deml o'r newydd i'r duw Zews/Iau, codi delw o'r duw hwnnw yn y deml ac (yn ôl yr hanesydd Josephus) aberthu moch iddo ar yr allor.
32Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn.
11:32 sefyll yn gryf yn ei erbyn Cyfeiriad at wrthryfel y Macabeaid, arweiniodd at gyfnod o annibyniaeth Iddewig. Cafodd y Deml ei hailgysegru yn Rhagfyr 164 CC ychydig dros dair blynedd ar ôl Antiochus IV ei halogi (gw. 1 Macabeaid 4:36-58)
33Bydd y rhai doeth yn dysgu trwch y boblogaeth beth i'w wneud. Ond bydd cyfnod anodd yn dilyn, pan fydd llawer yn cael eu lladd gan y cleddyf, eu llosgi, eu caethiwo, ac yn colli popeth. 34Pan fydd hyn yn digwydd, byddan nhw'n cael rhywfaint o help. Ond fydd llawer o'r rhai fydd yn ymuno â nhw ddim wir o ddifrif. 35Bydd hyd yn oed rhai o'r arweinwyr doeth yn syrthio. Bydd hyn yn rhan o'r coethi, y puro a'r glanhau sydd i ddigwydd cyn i'r diwedd ddod. Ac mae'r diwedd hwnnw yn sicr o ddod.

36“Bydd y brenin
11:36 y brenin Mae'n debyg fod adn.36-45 yn crynhoi sut gymeriad oedd Antiochus IV. Ond gall hefyd fod yn ddarlun o'r Anghrist, fydd yn dod yn y dyddiau olaf.
yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi ei benderfynu yn mynd i ddigwydd.
37Fydd e'n dangos dim parch at dduwiau ei hynafiaid, hyd yn oed ffefryn y merched.
11:37 ffefryn y merched Tammus-Adonis falle. gw. Eseciel 8:14
Fydd e'n dangos dim parch at unrhyw dduw. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na nhw i gyd.
11:37 bydd yn brolio … nhw i gyd Roedd yr arysgrif ar ddarnau arian Antiochus IV o tua 169 CC ymlaen yn darllen: “y Brenin Antiochus, Duw yn dangos ei hun, yr un sy'n dod â buddugoliaeth.”
38Yn eu lle nhw bydd yn addoli duw'r canolfannau milwrol – duw doedd ei hynafiaid yn gwybod dim amdano. Bydd yn tywallt aur, arian, gemau ac anrhegion costus eraill arno. 39Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw.

Rhan tri: y diwedd

40“Yna yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn ei erbyn. Ond bydd brenin y gogledd yn ei daro yn ôl yn galed gyda cerbydau, marchogion, a llynges o longau rhyfel. Bydd yn concro gwledydd ac yn ysgubo trwyddyn nhw fel afon wedi gorlifo. 41Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd.
11:41 y Wlad Hardd gw. y nodyn ar 8:9.
Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc.
42Wrth iddo ymestyn allan bydd yn taro un wlad ar ôl y llall. Fydd hyd yn oed yr Aifft ddim yn dianc. 43Bydd yn rheoli holl drysorau'r Aifft – yr aur, yr arian, a phopeth arall. Bydd Libia a Cwsh
11:43 Cwsh Teyrnas i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
yn ildio iddo.

44“Ond yna, bydd adroddiadau o'r dwyrain a'r gogledd yn achosi panig. Bydd yn mynd allan yn wyllt i ddinistrio a lladd llawer iawn o bobl. 45Bydd yn codi ei babell frenhinol i wersylla rhwng Môr y Canoldir a'r Mynydd Cysegredig. Dyna ble bydd yn cwrdd â'i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu.

Copyright information for CYM